Zechariah 10:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law adeg tymor cawodydd y gwanwyn — yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd. Bydd yn anfon cawodydd trwm o law a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law yn nhymor glaw'r gwanwyn; yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymion a'r cawodydd glaw, ac yn rhoi gwellt y maes i bawb.