Zechariah 10:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl, a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo — mae eu breuddwydion yn ffals, a'u cysur yn ddiwerth. Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid, heb fugail i'w hamddiffyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd, a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd; cyhoeddant freuddwydion twyllodrus, a chynnig cysur gwag. Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid, yn druenus am eu bod heb fugail.