Zechariah 10:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf, ac achub pobl Israel. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl a dangos trugaredd atyn nhw — bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf du375? Jwda yn nerthol, a gwaredaf du375? Joseff; dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt, a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.