Zechariah 11:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ar ben ar fy mugail diwerth sy'n troi cefn ar y praidd! Bydd cleddyf yn taro ei fraich ac yn anafu ei lygad dde. Bydd yn colli defnydd o'i fraich, ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae'r bugail diwerth, sy'n gadael y praidd. Trawed y cleddyf ei fraich a'i lygad de; bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth, a'i lygad de yn hollol ddall."