Zechariah 11:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo — am fod y borfa odidog wedi ei difetha! Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo — am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch alarnadu'r bugeiliaid, am i'w gogoniant gael ei ddinistrio; clywch ru'r llewod, am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.