Zechariah 11:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad," medd yr ARGLWYDD. "Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael."