Zechariah 12:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi ei drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a gweddau, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig.