Zechariah 12:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio ei symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw eu hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.