Zechariah 12:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dn yng nghanol coed, fel ffagl dn mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle.