Zechariah 12:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel DUW, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn amddiffyn trigolion Jerwsalem, a bydd y gwannaf ohonynt fel Dafydd, yn y dydd hwnnw, a llinach Dafydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.