Zechariah 13:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, 'Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD', a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo.