Zechariah 13:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr holl dir," medd yr ARGLWYDD, "trewir dwy ran o dair, a threngant, a gadewir traean yn fyw.