Zechariah 14:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw'n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda'r plâu mae'n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy'n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gu373?yl y Pebyll.