Zechariah 14:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglaf yr holl genhedloedd i frwydr yn erbyn Jerwsalem; cymerir y ddinas, ysbeilir y tai, a threisir y gwragedd, caethgludir hanner y ddinas, ond ni thorrir ymaith weddill y bobl o'r ddinas.