Zechariah 14:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i ARGLWYDD y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd y dydd hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhu375? ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.