Zechariah 3:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhu375? a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd.