Zechariah 3:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) — dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,' medd ARGLWYDD y Lluoedd. 'Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod.