Zechariah 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, 'Bendith! Bendith arni!'"