Zechariah 5:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd. ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrthyf, "Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn l un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn l yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon.