Zechariah 5:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr — y coed a'r cerrig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i hanfonaf allan," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac fe i mewn i du375?'r lleidr ac i du375?'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei du375? a'i ddifetha, yn goed a cherrig."