Zechariah 6:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw."