Zechariah 6:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, "Ewch i dramwyo'r ddaear." A gwnaethant hynny.