Zechariah 8:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd.