Zechariah 8:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus — yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i du375? Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.'