Zechariah 8:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?' medd ARGLWYDD y Lluoedd.