Zechariah 9:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda, ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim; codaf dy feibion, Seion, yn erbyn meibion Groeg, a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr."