Zechariah 9:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r ARGLWYDD DDUW a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau, a'i saeth yn fflachio fel mellten; Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd 'r utgorn ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.