Zephaniah 1:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig. Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid; yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr. Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dydd dicter yw'r dydd hwnnw, dydd blinder a gofid, dydd dinistr a difrod, dydd tywyllwch a dwch, dydd cymylau a chaddug,