Zephaniah 1:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a'r tramgwyddiadau ynghyd â'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid. Dw i am glirio adar a physgod (yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.) Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth oddi ar wyneb y ddaear,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail; ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y mr; darostyngaf y rhai drygionus, a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear," medd yr ARGLWYDD.