Zephaniah 1:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos. Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth, ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW! Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberth ac wedi cysegru ei wahoddedigion.