Zephaniah 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pob math o anifeiliaid gwylltion yn gorwedd yn ei chanol. Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion, ac yn hwtian yn y ffenestri. Bydd rwbel ar bob rhiniog a'r waliau'n noeth am fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol, holl anifeiliaid y maes; bydd y pelican ac aderyn y bwn yn nythu yn ei thrawstiau; bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr, a'r gigfran wrth y rhiniog, am fod y cedrwydd yn noeth.