Zephaniah 2:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri oedd yn ofni neb na dim! Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi!” Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl — lle i anifeiliaid gwyllt gael byw! Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio a gwneud ystumiau arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r ddinas fostfawr oedd yn byw mor ddiofal, ac yn dweud wrthi ei hun, "Myfi, nid oes neb ond myfi." Y fath ddiffeithwch ydyw, lloches i anifeiliaid gwylltion! Bydd pob un a heibio iddi yn chwibanu ac yn codi dwrn arni.