Zephaniah 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel. “Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! — yn llawn chwyn a phyllau halen, ac yn dir diffaith am byth. Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo, a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, cyn wired 'm bod i'n fyw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "bydd Moab fel Sodom, a'r Ammoniaid fel Gomorra, yn dir danadl, yn bentwr o halen, yn ddiffaith am byth. Bydd y rhai a adawyd o'm pobl yn eu hanrheithio, a gweddill fy nghenedl yn meddiannu eu tir."