Zephaniah 3:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti am yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i. Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio. Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ar y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl waith yn gwrthryfela i'm herbyn; oherwydd symudaf o'th blith y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder, ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu yn fy mynydd sanctaidd.