Zephaniah 3:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin. Bydda i'n achub y defaid cloff ac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl. Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmol yn lle codi cywilydd arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.