Zephaniah 3:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill a chwalu eu tyrau amddiffyn. Mae eu strydoedd yn wag heb neb yn cerdded arnyn nhw. Mae eu dinasoedd wedi eu difa. Does neb ar ôl, run enaid byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Torrais ymaith genhedloedd, ac y mae eu tyrau'n garnedd; gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch nad eir trwyddo; anrheithiwyd eu dinasoedd, heb bobl, heb drigiannydd.