Zephaniah 3:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan, “Arhoswch chi amdana i! Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod. Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydd a tywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw. Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly, disgwyliwch amdanaf," medd yr ARGLWYDD, "am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn; oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd a chynnull teyrnasoedd, i dywallt fy nicter arnynt, holl gynddaredd fy llid; oherwydd thn fy llid yr ysir yr holl dir.