John 20:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt o’r discipulon eraill gan hyny wrthaw. Gwelsam yr Arglwydd: ac ynt ef a ddyvot wrthyn, Any welaf yn ei ddwylo ol y cethri, a’ dodi vy‐bys yn ol y cethri, a’ dodi vy llaw yn eu ystlys, ny’s credwyf i ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wrtho y dywedodd y disgyblion eraill, Gwelsom yr Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni welaf yn Ei ddwylaw ol yr hoelion, a dodi o honof fy mys yn ol yr hoelion, a dodi o honof fy llaw yn Ei ystlys, ni chredaf ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho: “Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd.” Ond medd yntau wrthynt: “Oni welaf yn ei ddwylo dwll yr hoelion, a rhoddi fy mys yn lle yr hoelion, a rhoddi fy llaw yn ei ochr, ni chredaf i byth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, "Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd." Ond meddai ef wrthynt, "Os na welaf l yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn l yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd y Dysgyblion eraill gan hyny yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd. Ond dywedodd efe wrthynt, Oni châf fi weled yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf o gwbl.