Matthew 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thra ytoedd ef yn bwriady hynn, nycha, Angel yr Arglwydd yn ymddangos iddaw trwy hun, gā ddywedyt, Ioseph vap Dauid, nac ofna gymeryt Mair yn wreic y‐ty: can ys yr hyn a genetlwyt ynthei, ys ydd or yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, a ymddangosodd iddo, yn dywedyd, Ioseph, Mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, canys yr hyn a genhedlwyd ynddi, o’r Yspryd Glan y mae;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i hyn ddod i’w feddwl, dyna angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos iddo gan ddywedyd, “Ioseff, fab Dafydd, nac ofna gymryd atat Fair dy wraig; canys yr hyn a, genhedlwyd ynddi, o’r Ysbryd Glân y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, "Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae'r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o'r Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, fab Dafydd, nac ofna gymmeryd atat Mair dy wraig, canys yr hyn a genedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.