bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 John 1
2 John 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad, at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru mewn gwirionedd; ac nid myfi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n adnabod y Gwirionedd;
2
o achos y Gwirionedd y sy’n aros ynom, ac ynghyda ni y bydd yn dragywydd.
3
Bydd gyda ni ras, trugaredd, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
4
Llawenychais yn ddirfawr am gael o honof rai o’th blant yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn oddiwrth y Tad.
5
Ac yn awr, attolwg yr wyf i ti, arglwyddes, nid megis yn ysgrifenu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd genym o’r dechreuad, Garu o honom ein gilydd.
6
A hwn yw’r cariad, Rhodio o honom yn ol ei orchymynion. Hwn yw’r gorchymyn, Fel y clywsoch o’r dechreuad, ynddo ef y rhodioch.
7
Canys llawer o arweinwyr ar gyfeiliorn a aethant allan i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw’r arweiniwr ar gyfeiliorn a’r Antigrist.
8
Edrychwch attoch eich hunain na cholloch y pethau a weithredasom, eithr gwobr cyflawn y derbynioch.
9
Pob un y sy’n myned rhagddo ac heb aros yn nysg Crist, Duw nid yw ganddo. Yr hwn sy’n aros yn y ddysg, hwn sydd a’r Tad a’r Mab ganddo.
10
Os yw neb yn dyfod attoch, ac â’r ddysg hon na ddelo, na dderbyniwch ef i dŷ, ac wrtho na ddywedwch, Henffych well;
11
canys yr hwn sy’n dywedyd wrtho, Henffych well, cyfrannog yw o’i weithredoedd drwg ef.
12
A llawer o bethau genyf i’w hysgrifenu attoch chwi, nid ewyllysiais ’sgrifenu â phapur ac ingc; eithr gobeithio’r wyf ddyfod attoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y bo eich llawenydd wedi ei gyflawni.
13
Dy annerch y mae plant dy chwaer etholedig. Amen.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1