bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
3 John 1
3 John 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad at Gaius yr anwylyd, yr hwn yr wyf fi yn ei garu mewn gwirionedd.
2
Anwylyd, gweddïaf am i ti ym mhob peth lwyddo, a bod yn iach, fel mai llwyddo y mae dy enaid di:
3
canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i’th wirionedd di, fel yn y Gwirionedd yr wyt ti yn rhodio.
4
Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef clywed o honof am fy mhlant yn rhodio yn y Gwirionedd.
5
Anwylyd, peth ffyddlawn yr wyt yn ei wneuthur ym mha beth bynnag a weithredi tuag at y brodyr, a hyn hefyd, a hwy yn ddieithriaid,
6
y rhai a dystiolaethasant i’th gariad di ger bron yr Eglwys; y rhai, da y gwnai gan eu hebrwng mewn modd teilwng o Dduw;
7
canys er mwyn Yr Enw yr aethant allan heb gymmeryd dim gan y cenhedloedd.
8
Nyni, gan hyny, a ddylem dderbyn y cyfryw rai, fel mai cydweithwyr y byddom â’r Gwirionedd.
9
Ysgrifenais ryw faint at yr Eglwys; eithr yr hwn sy’n chwennych bod yn gyntaf yn eu plith, sef Diotrephes, ni dderbyn mo honom.
10
Gan hyny, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd ef y rhai y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag-siarad â geiriau drwg i’n herbyn; ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sy’n ewyllysio, eu rhwystro y mae, ac allan o’r Eglwys y’u teifl.
11
Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, eithr yr hyn sydd dda; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, ni welodd Dduw.
12
I Demetrius y tystiolaethwyd gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun; ac nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a gwyddost am ein tystiolaeth mai gwir yw.
13
Llawer o bethau oedd genyf i’w hysgrifenu attat, eithr ag ingc a phin nid wyf yn foddlawn i ysgrifenu attat ti;
14
ond gobeithio yr wyf dy weled yn ebrwydd; a gwyneb yn wyneb yr ymddiddanwn.
15
Tangnefedd i ti. Dy annerch y mae’r cyfeillion. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1