bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Jude 1
Jude 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
1
Iwdas, gwas i Iesu Grist, a brawd i Iago, at y galwedigion, anwyl yn Nuw Dad, a chadwedig i Iesu Grist.
2
Trugaredd i chwi, a thangnefedd a chariad a amlhaer.
3
Anwylyd, wrth wneuthur pob diwydrwydd i ysgrifenu attoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, bu rhaid i mi ysgrifenu attoch, gan eich cynghori i ymdrechu dros y ffydd a roddwyd unwaith am byth i’r saint;
4
canys daeth i mewn yn ddirgel ryw ddynion, y rhai er ys talm a rag-ysgrifenwyd i’r condemniad hwn, annuwiolion, a gras ein Duw yn cael ei droi ganddynt i drythyllwch, a’n hunig Feistr ac Arglwydd Iesu Grist yn cael Ei wadu ganddynt.
5
Ond ewyllysiaf eich coffau, a chwi yn gwybod unwaith am byth bob peth, i’r Arglwydd, wedi gwaredu o Hono bobl o dir yr Aipht, wedi hyny ddistrywio y rhai na chredasant;
6
ac angylion, y rhai ni chadwasant eu llywodraeth eu hunain, eithr a adawsant eu trigfa eu hunain, i farn y dydd mawr, mewn rhwymau tragywyddol, tan dywyllwch y’u cadwodd.
7
Fel y mae Sodom a Gomorrah, a’r dinasoedd o’u hamgylch, wedi iddynt yn y cyffelyb fodd a’r rhai hyn, butteinio a myned ar ol cnawd dieithr, yn gorwedd o’n blaen yn esampl, gan ddioddef cospedigaeth tân tragywyddol.
8
Yr un ffunud, er hyny, y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, y cnawd a halogant, a llywodraeth a ddiystyrant, a gogoniannau a gablant:
9
ond Michael yr arch-angel, pan â diafol yr ymddadleuai, ac yr ymresymmai ynghylch corph Mosheh, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn gablaidd, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
10
Ond y rhai hyn, cymmaint o bethau ag na wyddant, a gablant; a chymmaint o bethau ag wrth naturiaeth, fel yr anifeiliaid direswm, a wyddant, yn y rhai hyn yr ymlygrant.
11
Gwae iddynt! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac ynghyfeiliornad Balaam, er cyflog y rhuthrasant, ac yngwrth-ddywediad Core y darfu am danynt.
12
Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eich cariad-wleddoedd yn greigiau cuddiedig, yn cyd-wledda â chwi, heb ofn yn porthi eu hunain; cymmylau diddwfr, yn cael gan wyntoedd eu dwyn ymaith; preniau hydrefol heb ffrwyth,
13
dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio, tonnau gwylltion y môr, yn ewynnu allan eu cywilyddion eu hunain; ser gwibiog, i’r rhai y mae duder y tywyllwch yn dragywydd wedi ei gadw.
14
Ac am y rhai hyn y prophwydodd hefyd y seithfed o Adam, Chenoc, gan ddywedyd, “Wele, daeth yr Arglwydd â’i fyrddiynnau sanctaidd,
15
i wneuthur barn ar bawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol, am holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, ac am yr holl bethau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn Ei erbyn.”
16
Y rhai hyn ydynt rwgnachwyr, tuchanwyr; yn ol eu chwantau y cerddant (ac eu genau sy’n llefaru tra-chwyddedig bethau,) yn edmygu gwynebau er mwyn budd.
17
Ond chwychwi, anwylyd, cofiwch y geiriau a rag-ddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;
18
ddywedyd o honynt wrthych, Yn yr amser diweddaf y bydd gwatwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain.
19
Y rhai hyn yw’r rhai sy’n didoli eu hunain, yn anianol, heb yr Yspryd ganddynt.
20
Ond chwychwi, anwylyd, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd,
21
gan weddïo yn yr Yspryd Glân, cedwch eich hunain ynghariad Duw, gan edrych am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol.
22
Ac wrth rai trugarhewch, wrth ammeu o honynt;
23
a rhai achubwch, gan eu cipio allan o’ r tân; ac wrth rai trugarhewch, mewn ofn, gan gasau hyd yn oed y wisg a frychwyd gan y cnawd.
24
Ac i’r hwn sydd yn abl i’ch cadw heb dripio, a’ch gosod ger bron Ei ogoniant yn ddianaf,
25
mewn gorfoledd, i’r unig Dduw ein Hiachawdwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, bydded gogoniant, mawredd, gallu, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yr awr hon, ac yn dragywydd. Amen.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1