bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Philemon 1
Philemon 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
1
Paul, carcharor i Grist Iesu, a Timothëus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr,
2
ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys y sydd yn dy dŷ:
3
gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
4
Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddïau,
5
gan glywed am dy gariad di, a’r ffydd y sydd genyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint,
6
fel y bo i gymdeithas dy ffydd fyned yn effeithlawn, yngwybodaeth pob peth da y sydd ynoch, er Crist,
7
canys llawenydd lawer fu genyf a diddanwch yn dy gariad, o herwydd i ymysgaroedd y saint gael eu dadebru trwot, frawd.
8
O herwydd paham, er bod genyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd weddus,
9
o achos cariad yn hytrach attolwg yr wyf, a mi yn gyfryw un a Paul yr henafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor i Grist Iesu;
10
attolwg yr wyf i ti ynghylch fy mhlentyn yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau,
11
sef Onesimus, yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol,
12
ond yn awr i ti ac i mi yn fuddiol, yr hwn a ddanfonais yn ei ol attat, ef ei hun, hyny yw, fy ymysgaroedd i;
13
yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi fy hun, fel trosot y gwasanaethai fyfi yn rhwymau yr Efengyl;
14
ond heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim, fel nad megis o angenrhaid y byddai dy ddaioni, eithr o wirfodd;
15
canys ysgatfydd, er mwyn hyn y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser fel yn dragywydd y byddai efe genyt;
16
dim mwyach megis caethwas, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn enwedig genyf fi, ond pa faint mwy genyt ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd?
17
Os, gan hyny, fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr yr wyt, derbyn ef fel myfi;
18
ac os rhyw niweid a wnaeth efe i ti, neu ag arno ryw beth i ti,
19
hyny dyro at fy nghyfrif i: myfi Paul a ysgrifenais â’m llaw fy hun; myfi a dalaf; fel na ddywedwyf wrthyt mai i mi y mae arnat am danat dy hun hefyd.
20
Ië, frawd, bydded i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd;
21
dadebra fy ymysgaroedd yng Nghrist. Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifenais attat, gan wybod mai mwy na’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd a wnei.
22
Ac heb law hyn hefyd, parottoa i mi letty, canys gobeithio yr wyf mai trwy eich gweddiau y rhoddir fi i chwi.
23
Dy annerch y mae Epaphras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu,
24
Marcus, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.
25
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda’ch yspryd chwi. Amen.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1