bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 John 1
2 John 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes, a’i phlant yr wyf i yn eu caru yn y gwirionedd, ac nid myfi’n unig ond pawb sy’n adnabod y gwirionedd,
2
oherwydd y gwirionedd sydd yn aros ynom, a chyda ni y bydd yn dragywydd.
3
Bydd gyda ni ras, trugaredd, tangnefedd oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
4
Llawenychais yn ddirfawr o gael o’th blant rai’n rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn oddi wrth y Tad.
5
Ac yn awr yr wyf yn deisyf arnat, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd atat, ond un oedd gennym o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd.
6
A hyn yw cariad, rodio ohonom yn ôl Ei orchmynion Ef. Hwn yw’r gorchymyn fel y clywsoch o’r dechrau, rodio ohonoch ynddo, —
7
oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i’r byd, sydd yn gwadu dyfodiad Iesu Grist mewn cnawd. Dyma’r twyllwr a’r Anghrist.
8
Cedwch olwg arnoch eich hunain rhag i chwi ddifa yr hyn a weithiasom, ond derbyn ohonoch gyflawn dâl.
9
Nid yw Duw gan neb eithafol ac nad yw’n aros yn athrawiaeth Crist. Yr hwn sy’n aros yn yr athrawiaeth, y mae’r Tad a’r Mab ganddo,
10
Os daw rhywun atoch heb fod yn dwyn yr athrawiaeth hon, na dderbyniwch ef i’r tŷ, ac na ddywedwch “dydd da” wrtho.
11
Y mae’r hwn sy’n dywedyd “dydd da” wrtho yn cyfranogi yn ei weithredoedd drwg ef.
12
Er bod gennyf lawer o bethau, ni ddewisais ysgrifennu atoch ar ddu a gwyn, ond yr wyf yn gobeithio cael bod gyda chwi a siarad wyneb yn wyneb fel y bydd ein llawenydd yn gyflawn.
13
Y mae plant dy etholedig chwaer yn cofio atat.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1