bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
3 John 1
3 John 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf i yn ei garu yn y gwirionedd.
2
Y gŵr annwyl, ym mhopeth fy ngweddi yw fod i ti rwydd hynt ac iechyd, fel y mae i’th enaid rwydd hynt,
3
canys llawenychais yn ddirfawr ddyfod o’r brodyr a thystio i’th wirionedd, dy fod yn rhodio yn y gwirionedd.
4
Mwy llawenydd na’r pethau hyn nid oes gennyf, fy mod yn clywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd.
5
Gyfaill annwyl, yr wyt yn ymddwyn fel credadun yn dy holl ymwneuthur â’r brodyr, a hwythau’n ddieithriaid hefyd, —
6
ac y maent hwy wedi tystio i’th gariad gerbron yr eglwys, a da y gwnei eu rhoddi ar ben eu ffordd, yn deilwng o Dduw,
7
oherwydd er mwyn yr enw yr aethant allan, heb dderbyn dim ar law y paganiaid.
8
Felly dylem ninnau groesawu rhai fel hyn, er mwyn inni fod yn gyd-weithredwyr â’r gwirionedd.
9
Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotrephes sydd am fod ar y blaen arnynt, yn ein cydnabod.
10
Am hynny, pan ddeuaf, mi a alwaf sylw at ei waith yn clebran i’n herbyn â geiriau drwg; ac nid yw hyn yn ddigon ganddo, — ni fyn ei hunan dderbyn y brodyr, ond y mae hefyd yn rhwystro’r rhai sy’n dymuno hynny, ac yn eu torri allan o’r eglwys.
11
Gyfaill annwyl, na chymer y drwg yn esiampl ond y da. Yr hwn sy’n gwneuthur da, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur drwg, nid yw wedi gweled Duw.
12
Cafwyd tystiolaeth i Demetrius gan bawb a chan y gwirionedd ei hunan; ac yr ydym ninnau’n tystio, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir.
13
Yr oedd gennyf lawer i’w ysgrifennu atat, ond nid wyf am ysgrifennu atat â phin ac inc.
14
Ond yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan a chawn siarad wyneb yn wyneb.
15
Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion yn dy gyfarch; cyfarch y cyfeillion wrth eu henwau.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1