bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Philemon 1
Philemon 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
1
Paul carcharor Crist Iesu a’r brawd Timotheus at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr
2
ac at Apffia ein chwaer ac at Archippus ein cyd-filwr ac at yr eglwys yn dy dŷ;
3
gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
4
Diolchaf i’m Duw yn wastadol gan wneuthur coffa ohonot yn fy ngweddïau,
5
o glywed am dy gariad a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint,
6
fel y bo cyfranogi o’th ffydd yn effeithiol mewn gwybodaeth o bob rhyw ddaioni sydd ynom tuag at Grist;
7
canys cefais lawer o lawenydd a diddanwch ar gyfrif dy gariad, fy mrawd, oherwydd adfywiwyd calonnau’r saint drwot ti.
8
Gan hynny, er bod gennyf bob rhyddid yng Nghrist i orchymyn dy ddyletswydd iti,
9
yn hytrach ar sail cariad yr wyf yn cymell, — a mi Paul megis hynafgwr ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu — cymhellaf di
10
ar ran fy mhlentyn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus,
11
a fu gynt yn ddifudd i ti, eithr yn awr sy’n fuddiol iawn i ti ac i minnau:
12
anfonaf ef yn ôl atat, ac yntau yn fyw fy nghalon;
13
ewyllysiwn ei gadw gyda mi, i’m gwasanaethu trosot yn rhwymau yr efengyl,
14
ond ni ewyllysiais wneuthur dim heb dy gydsyniad di, fel na byddai dy ddaioni fel petai o anghenraid ond o wirfodd.
15
Efallai, yn wir, mai am hyn y gwahanwyd ef oddi wrthyt dros dro, fel y cait ef yn ôl dros fyth,
16
nid fel gwas mwyach eithr yn fwy na gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi, ac yn fwy fyth i ti yn y cnawd ac yn yr Arglwydd.
17
Felly os wyt yn fy nghymryd fel cyfaill, derbyn ef megis mi fy hun.
18
Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny i mi;
19
myfi Paul wyf yn ysgrifennu â’m llaw fy hun, myfi a dalaf — fel na ddywedwyf wrthyt dy fod dithau yn fy nyled i amdanat dy hun.
20
Yn awr, frawd, gad i mi dderbyn lles oddi wrthyt yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21
Gan ymddiried yn dy ufudd-dod yr ysgrifennaf atat, yn gwybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22
Yr un pryd, paratoa lety i mi; oherwydd gobeithiaf trwy eich gweddïau chwi y’m cyflwynir i chwi.
23
Y mae yn dy gyfarch Epaffras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu,
24
Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghydweithwyr.
25
Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1