bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!):
2
Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu.
3
Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain trwy fod yn esiampl dda iddyn nhw.
4
Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo.
5
Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”
6
Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi.
7
Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.
8
Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu.
9
Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath.
10
Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog.
11
Fe sydd biau'r grym i gyd, am byth! Amen!
12
Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.
13
Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi eu dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd.
14
Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy'n dangos cariad go iawn. Dw i'n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy'n perthyn i'r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5