bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Thessalonians 4
1 Thessalonians 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy.
2
Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni'n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun:
3
Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy'n anfoesol yn rhywiol.
4
Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol — parchu eich corff a bod yn gyfrifol —
5
yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt.
6
Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol — dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen.
7
Mae Duw wedi'n galw ni i fyw bywydau glân, dim i fod yn fochaidd.
8
Felly mae unrhyw un sy'n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy'n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy'r rhain!
9
Ond does dim rhaid i mi ddweud unrhyw beth am y cariad mae Cristnogion i'w ddangos at ei gilydd. Mae'n amlwg fod Duw ei hun — neb llai — wedi'ch dysgu chi i wneud hynny.
10
Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy.
11
Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi.
12
Wedyn bydd pobl sydd ddim yn credu yn parchu'r ffordd dych chi'n byw, a fydd dim rhaid i chi ddibynnu ar neb arall i'ch cynnal chi.
13
A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru — does ganddyn nhw ddim gobaith.
14
Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl.
15
Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw.
16
Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf.
17
Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth.
18
Felly calonogwch eich gilydd gyda'r geiriau hyn.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5