bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Timothy 4
2 Timothy 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw a'r rhai sydd wedi marw). Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i'n dy siarsio di
2
i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall — a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i'r gwir.
3
Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed.
4
Byddan nhw'n gwrthod beth sy'n wir ac yn dilyn straeon celwyddog.
5
Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i ti.
6
Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod.
7
Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon.
8
Bellach mae'r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl — a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.
9
Gwna dy orau i ddod yma'n fuan.
10
Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma — mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia.
11
Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith.
12
Dw i'n anfon Tychicus i Effesus.
13
A pan ddoi di, tyrd â'r fantell adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd — hynny ydy, y memrynau.
14
Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu.
15
Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.
16
Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi eu cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw.
17
Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!
18
A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
19
Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws.
20
Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus.
21
Plîs gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti.
22
Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4