bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ephesians 1
Ephesians 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. At bobl Dduw yn Effesus, sy'n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo:
2
Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
3
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy'n y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia.
4
Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad
5
trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny!
6
Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi ei ddangos tuag aton ni! — ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu.
7
Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni!
8
Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni.
9
Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu
10
i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.
11
Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio.
12
Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych.
13
Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd — cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi ei addo i chi.
14
Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi ei gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych!
15
Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill,
16
dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo.
17
Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well.
18
Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl.
19
Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol
20
wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.
21
Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo — yn y byd yma na'r byd sydd i ddod!
22
Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi ei wneud e yn ben ar y cwbl — er lles yr eglwys.
23
Yr eglwys ydy ei gorff e — mae'n llawn ohono fe sy'n llenwi'r bydysawd cyfan â'i bresenoldeb.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6